Our Welsh-speaking parters in peacemaking, Cymdeithas y Cymod, have written a prayer specially for Peace Sunday
Wrth feddwl am ein byd bregus, Dduw ein Tad, gweddïwn dros y sawl sy’n gorfod ffoi o’u cartrefi a’u gwledydd yn enwedig gwlad Afghanistan, lle mae’r dyfodol yn ansicr iawn i ferched a gwragedd. Gweddïwn dros bob gwlad sy’n cael ei rhwygo gan drais a rhyfel. Gweddïwn dros bob man lle plant dynion yn stompio dros y byd gan ysu am frwydr yn lle chwilio am gyfeillgarwch. Yn crafangu am elw ac arian yn lle chwilio am gymod. Yn gwerthu arfau, yn dyfeisio peiriannau rhyfel newydd, ffyrdd newydd o ladd pobl, yn hytrach na cheisio ffordd tangnefedd a chyfiawnder. Bendithia’r bobl efo bara nid boms, efo tangnefedd nid tanciau, efo gobaith nid gynnau. Arwain y cenhedloedd o afael gormes ac ysbryd rhyfelgar i greu system ariannol newydd fydd yn seiliedig ar les pawb ac ar les y ddaear. Helpa ni oll i weld sut y gall gwasanaeth, aberth ac ymateb di-drais fod yn ogoneddus o nerthol yn ein hymateb ni i eraill ac i ti.
Arglwydd Dduw, rydym yn cyfaddef ein hanallu i weld ein brodyr a’n chwiorydd fel plant i ti, Tad y teulu dynol. Mor barod ydym i farnu yn ôl yr hyn a dybiwn sy’n ffaeleddau a gwendidau mewn eraill. Rydym yn gwrthod – lle’r wyt ti’n derbyn,
yn casáu – lle’r wyt ti’n caru,
yn condemnio – lle’r wyt ti’n maddau,
yn gosod amodau – lle mae dy dosturi di yn ddiderfyn.
Dyro i ni’r gallu i fedru gweld ein gilydd fel y mae Iesu yn ein gweld ni. Crea ynom yr awydd i sicrhau i eraill eu rhan yn y bendithion a’r breintiau yr ydym ni’n cael eu mwynhau. Fel bod y byd yn dod fwyfwy yn wir gartref, a’i holl drigolion yn frodyr a chwiorydd i’w gilydd. Gofynnwn hyn yn enw Iesu.
Amen.
In thinking of our fragile world, God our Father, we pray for those who have to flee their homes and countries, especially Afghanistan, where the future is very uncertain for women and women. We pray for every country torn apart by violence and war. We pray for every place where men's children stomp all over the world longing for battle instead of seeking friendship. Claw for profit and money instead of seeking reconciliation. Selling weapons, inventing new war machines, new ways of killing people, rather than seeking the way of peace and justice. Bless the people with bread not bombs, with peace not tanks, with hope not guns. Leading the nations from a grip of oppression and a warlike spirit to create a new financial system based on the welfare of all and the welfare of the earth. Help us all to see how service, sacrifice and non-violent response can be gloriously powerful in our response to others and to you. Amen